Neidio i'r cynnwys

Niger

Oddi ar Wicipedia
Niger
Gweriniaeth Niger
République du Niger (Ffrangeg)
ArwyddairBrawdoliaeth, Gwaith, Datblygiad Edit this on Wikidata
Mathgweriniaeth, gwladwriaeth sofran, gwlad dirgaeedig, gwlad Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlAfon Niger Edit this on Wikidata
PrifddinasNiamey Edit this on Wikidata
Poblogaeth21,477,348 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd18 Rhagfyr 1958 (Datganiad Annibyniaeth, oddi wrth Ffrainc}
3 Awst Diwrnod Annibyniaeth (1960)
AnthemL'Honneur de la Patrie Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethAli Lamine Zeine Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, Africa/Niamey Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Hawsa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladNiger Edit this on Wikidata
Arwynebedd1,267,000 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaTsiad, Libia, Algeria, Mali, Bwrcina Ffaso, Benin, Nigeria, Y Cynghrair Arabaidd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau17°N 10°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolCabinet Niger Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholCynulliad Cenedlaethol Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd Niger Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethAbdourahamane Tchiani Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Niger Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethAli Lamine Zeine Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$14,915 million, $13,970 million Edit this on Wikidata
Arianfranc CFA Gorllein Affrica Edit this on Wikidata
Canran y diwaith5 ±1 canran Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant7.599 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.4 Edit this on Wikidata

Gwlad dirgaeedig yng ngorllewin Affrica yw Niger (ynganiad: niʒɛʁ, enw swyddogol: Jamhuriyar Nijar sef Gweriniaeth Niger). Mae'n ffinio â Nigeria a Benin yn y de, Mali a Bwrcina Ffaso yn y gorllewin, Algeria a Libia yn y gogledd a Tsiad yn y dwyrain. Rhan o'r Sahara yw gogledd y wlad. Mae Afon Niger yn llifo trwy dde-orllewin y wlad. Niamey yw'r brifddinas.

Daearyddiaeth

[golygu | golygu cod]

Daw enw'r wlad o afon Afon Niger, y drydedd afon hiraf ar gyfandir Affrica. Er hynny, trwy Nigeria a Mali mae rhannau hiraf yr afon yn llifo, gyda rhyw 500 km yn unig yn llifo trwy weriniaeth Niger. Mae 80% o arwynebedd y wlad yn rhan o anialwch y Sahara, llawer ohono yn anialwch Ténéré. Mynydd Idoukal-n-Taghès (2022 m) yw'r uchaf yn y wlad, ym mynyddoedd Aïr. Llosgfynyddoedd ffurfiodd mynyddoedd Aïr, sy'n rhyw fath o is-gangen o Fynyddoedd Ahaggar dros y ffin yn rhan Algeria'r anialwch. Yn y de-orllewin mae dyffryn Afon Niger, lle mae tiroedd mwyaf ffrwythlon y wlad. Mae de-ddwyrain y wlad yn ffinio â Llyn Tsiad.

Hinsawdd drofannol, sych, sydd gan Niger. Anialwch poeth a sych a geir yn y gogledd (ac eithrio gwerddonau â'u coed datys), ond mae tymor glawog i'w gael yn de, gyda hyd at 750mm o law yn flynyddol. Safana yw llawer o'r tir nad yw'n anialwch, gyda choed kaoba, kapok a baobab yn amlwg.

Niamey yw'r brifddinas a'r ddinas fwyaf. Rhai o drefi eraill y wlad yw Zinder, Maradi, Agadez, Tahoua ac Arlit.

Ieithoedd

[golygu | golygu cod]
Ieithoedd cenedlaethol Niger (map yn Almaeneg)

Hawsa yw iaith fwya'r wlad gydag oddeutu 55% o'r boblogaeth (rhyw 14,500,000 o bobl) yn ei siarad. Ers 2025, Hawsa yw iaith swyddogol y wlad - roedd iaith y coloneiddwyr o Ffrainc wedi parhau'n iaith swyddogol tan hynny.

Ceir sawl iaith arall yn y wlad: Songaieg (gan gynnwys Zarma), Tamasheceg, Ffwlareg, Canwrieg, Arabeg, Gwrmaneg, ieithoedd Tebw a mwy.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am Niger. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.